Darlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru Ar Ymyl y Gofod gan Eleri Pryse yn rhan o raglen Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 2019, ardal o'r Gofod lle mae'r awroa ac effeithiau tywydd y gofod.
Mae sawl cyswllt hanesyddol â Chymru yn y maes. Defnyddir signalau Radio i ymchwilio'r y Gofod, ac mae'n debygol i David Edward Hughes (1831-1900) ddarganfod effaith tonnau radio yn 1879, cyn arbrofion Hertz (erthygl W.M. Jones yn Y Gwyddonydd, Cyfrol 13 Rhifyn 1, 1975). Disgrifiwyd yr awrora gan William Williams, Pantycelyn, a cheir cyfrol gan y Parch J. Silas Evans, Seryddiaeth a Seryddwyr yn dilyn ei chyflwyno i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri (1920). Yn fwy diweddar gwnaed cyfraniad allweddol gan Tecwyn Roberts o Sir Fôn i'r glanio ar y Lleuad hanner can mlynedd yn ôl (O Fôn i'r Lleuad, Tudur Owen, S4C).
Rhan o brosiect RAS 200 – Seryddiaeth a Geoffiseg.