Bwriad y ddau becyn yma yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwyno’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecynau o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous. Mae pob thema’n cynnwys ystod o adnoddau (cynllun gwers, cyflwyniadau, taflenni gwaith, gweithgareddau) a’r cyfan wedi’i baratoi gan arbenigwyr yn eu meysydd. Mae’r pecynnau yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r Sgiliau Allweddol (cyfathrebu, technoleg gwybodaeth, cymhwyso rhif, gweithio gydag eraill, datrys problemau, gwella dysgu a pherfformiad personol) sy’n ganolog i gymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Lawrlwythwych y pecynnau yn yr adran Cyfryngau Cysylltiedig uchod.