Mae’r Cynllun Strategol hwn, ar gyfer y cyfnod hyd at 2025, yn mynegi ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer swyddogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel corff arweiniol sy’n gwreiddio’r Gymraeg fel rhan hanfodol o batrwm dysgu gydol oes pobl Cymru, ac yn benodol yng nghyd-destun addysg ôl-16 ac addysg uwch.